Uchafbwyntiau Chapter Mis Awsr

  • Published:

Ydych chi wedi gweld Y Gadair Fwydo yn ein caffi bar eto? Gwaith celf cydweithredol yw hwn sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u babanod a’u plant ifanc mewn lleoliadau cyhoeddus. Rydyn ni wedi cydweithio â'r elusen The Birth Partner Project o Gaerdydd i gynnal dangosiad am ddim o'r ffilm fer The Milk Report i ddathlu Wythnos Bwydo ar y Fron. Dydd Mercher 6 Awst 11am.

Mae’r artistiaid y tu ôl i'n harddangosfa ddiweddaraf, Jenő Davies ac Iolo Walker: Meadowsweet Palisade wedi gweithio i greu tymor o ffilmiau ochr yn ochr â'r gweithiau yn ein horiel. Mae'r ffilmiau'n archwilio materion cymdeithasol fel cyfalafiaeth, cymuned, gwrthsafiad ac ecoleg. Nesaf mae Complicit Haneke.

Rydyn ni’n dangos ffilmiau teuluol cost isel yn wythnosol drwy gydol gwyliau'r haf. Ymunwch â ni foreau Mercher a Gwener am docynnau £5 i'r teulu cyfan!

Mae Ex-Easter Island Head yn camu i’r llwyfan ar gyfer gig olaf yr haf, gyda chefnogaeth gan Beauty Parlor o Gaerdydd am noson o berfformiadau hypnotig a dronau disglair. Tocynnau cynnar £6 ar gael tan 8 Awst.