Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

EXPERIMENTICA 24: Lou Lou Sainsbury: A Fantastic Body & descending notes + Sesiwn Holi ac Ateb

  • 1h 15m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 15m

+ Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r artistiaid Rebecca Jagoe a Lou Lou Sainsbury, wedi'i cadeirydd gan Claire Vaughan (BSL gan Nez Parr)

Mae Lou Lou Sainsbury yn cyflwyno dau ddarn o’i gwaith delwedd symudol, gyda thrafodaeth i ddilyn. Mae A Fantastic Body yn ein cyflwyno ni i Sunbeam – ailymgnawdoliad plỳsh ffigwr traws hanesyddol, ac mae descending notes yn cynnig stori gosmig erotig am gariad, cyseinedd ac anghyseinedd.

Artist yw Lou Lou Sainsbury sy’n byw rhwng Rotterdam yn yr Iseldiroedd a Margate yn Lloegr, ac mae’n gweithio ar draws ffilm, perfformiadau byw, barddoniaeth, arlunio, cerflunwaith, a thecstilau. Mae’n disgrifio’i hunan fel teithiwr amser, gan greu pethau sy’n dad-ysgrifennu hanesion bodau byw i fod yn freuddwydion twyllodrus, gan archwilio hunaniaeth, cymuned a chysylltiad ecolegol. Mae’n cydweithio ag eraill yn aml, gan ddatblygu prosesau clòs hirdymor ar sail ymchwil wedi’u harwain gan fyrfyfyrio, prosesau sinematig a meddwl sonig.

Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Ehrlich Steinberg, Los Angeles (2024); Roodkapje, Rotterdam (2023); Oriel Humber Street, Hull; Gasworks, Llundain (2022) a Well Projects, Margate (2020). Mae arddangosfeydd grŵp, perfformiadau a dangosiadau diweddar Lou Lou yn cynnwys: Rencontres Internationales Paris/Berlin; Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Rotterdam (2023); Whitstable Biennale (2022); Canolfan y Celfyddydau Cyfoes, Prag (2021); La Casa Encendida, Madrid (2020), Tate Modern, Llundain; Nottingham Contemporary; Yaby, Madrid (2019) a Flat Time House, Llundain (2018).

Share