Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

EXPERIMENTICA 24: Rebecca Jagoe: My name is Lubbert Das

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Mae My name is Lubbert Das yn brosiect parhaus sy’n dychmygu cwiardeb ac awtistiaeth fel perthynas agos gyda darn o garreg wedi’i osod yn ymennydd y gwrthrych, wedi’i ysbrydoli gan baentiad Bosch o The Stone of Folly. Mae’r perfformiad naratif aflinol yma’n adrodd myth am garreg sy’n cael ei phasio o wrthrych i wrthrych ar draws cenedlaethau, gan fyw y tu mewn iddyn nhw o’u geni tan eu marwolaeth, a byw’n hirach na phob un ohonyn nhw.

Gan symud o ofod i ofod yn ystafelloedd cefn Chapter, bydd y gwaith yn creu corws toredig o anghydlyniant a ffurfiau o lefaru sy’n cael eu hystyried yn arwyddion o wallgofrwydd. Ym mhaentiad Bosch, mae’r garreg ffolineb yn ffug: yn y prosiect yma, mae’n amwys a yw’r garreg yn bodoli, neu a yw’n naratif ffug a grëwyd gan gyfres o feddygon cwac, gan adlewyrchu’r berthynas amwys mae llawer o bobl awtistig yn ei theimlo gyda diagnosis, fel rhywbeth sy’n wirionedd ac yn anwiredd sy’n patholegu ar yr un pryd. Nod y perfformiad yw herio biohanfodaeth, seiciatreg, a’r safbwynt gwyddonol Gorllewinol bod cerrig yn anadweithiol ac yn ddifywyd.

Mae Rebecca Jagoe yn artist anneuaidd, anabl ac awtistig, sy’n gweithio gyda thestun, perfformiad a cherflunio. Mae eu gwaith yn gofiant materol sy’n archwilio sut mae profiadau o salwch, gwallgofrwydd, a rhywedd yn cael eu llywio gan naratifau Gorllewinol Cristnogol penodol o gwmpas y ‘dynol’, a goruchafiaeth ddynol dros y ddaear. Gan gynnig beirniadaethau o echdyniad adnoddau treisgar, mae gwaith Jagoe yn ein hatgoffa bod pob mater yn fyw.

Mae eu gwaith wedi cael ei ddangos yn Oriel Site, Sheffield; g39, Caerdydd; ac Oriel Freelands, Llundain (oll yn 2023); The Drawing Room, Llundain; Mostyn, Llandudno; Somerset House, Llundain, EKKM Tallinn a Kim? Riga (oll yn 2021), Wysing, Caergrawnt, a CCA Goldsmiths, Llundain (oll yn 2020). Yn 2023, nhw oedd derbynnydd cyntaf Grant Neuroqueering. Roedden nhw’n Gymrawd Cymru yn Fenis 2022-23, a ddyfarnwyd gan Gyngor y Celfyddydau ac Artes Mundi, ac yn Gymrawd Freelands 2021-22 yn g39. Ar hyn o bryd maen nhw’n rhan o garfan anabledd Creativity is Mistakes.

Mae hwn yn berfformiad hirbarhaus, ac mae croeso i gynulleidfaoedd fynd a dod fel hoffen nhw. Bydd y perfformiad yn digwydd mewn nifer o safleoedd, wedi’u lleoli drwy fap sydd ar gael yn hyb yr ŵyl ac ar-lein. Dylech nodi y bydd un rhan o’r perfformiad yma’n digwydd ar risiau nad ydyn nhw’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd sain byw o’r darn yma’n cael ei chwarae yn y lifft sydd ym mynedfa’r adeilad.

RHYBUDD CYNNWYS: Cyfeiriadau at gam-driniaeth seiciatrig a rhywiol

18+

Share

Ymunwch â'n rhestr bostio