Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

EXPERIMENTICA 24: Naomi Pearce a Stuart Middleton: I Lay Waiting

  • 0h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 0h 30m

Profiad gwrando gwaith-ar-waith clòs, lle mae gwahoddiad i’r gynulleidfa suddo i’r gors ac archwilio’n llorweddol. Gyda myfyrdodau ar brotestiadau ‘die-in’, cyfarfyddiadau rhywiol, ymadfer a chwsg, byddwch yn atgyfodi gyda safbwyntiau newydd ar yr hyn mae’n ei olygu i orwedd i lawr.

Awdur a churadur yw Naomi Pearce sy’n cydweithio gydag artistiaid i greu arddangosfeydd, traethodau, llyfrau a digwyddiadau. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys 'Good Bad Books?', y Barbican, Llundain (2023) ac 'Unbidden Tongues: Continuity Girl', Kunstverein München (2022). Mae ei thraethodau a’i gwaith ffuglen wedi cael eu cyhoeddi gan Art Monthly, LA Review of Books, e-flux Criticism, MIT Press a The White Review, ymhlith eraill. Mae perfformiadau byw o’i gwaith ysgrifennu wedi cael eu cynnal gan Turner Contemporary, Margate (2023), Oriel David Dale, Glasgow (2021), Matt's Gallery, Llundain a NIDA Art Colony, Lithwania, (ill dau yn 2018). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Innominate, gan MOIST yn 2023.

Artist gweledol yw Stuart Middleton sy’n gweithio ar draws ystod o gyfryngau. Mae ei arddangosfeydd blaenorol yn cynnwys Paisley Liberal Club, Paisley, yr Alban (2022); Life is not a walk across an open field, Carlos/Ishikawa, Llundain (2021); Motivation and Personality, Kunstlerhaus Graz (2018) a Beat, Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Llundain (2017). Mae arddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys Against Sun and Dust, Villa Imperiale, Pesaro (2023); Everything Broken Down, Solid Haus, Suffolk (2023); The Double Time of Drawing, Clementin Seedorf, Cwlen (2023); Every lie has an audience, Marsèll, Milan (2022); Testament, Goldsmiths CCA, Llundain (2022); Tourism, Kunsthaus Glarus, Glarus (2021).

Taflen Sain: Rhaglen Hygyrch

Nodyn cynnwys: mae’r gwaith yma’n cynnwys disgrifiadau o weithgarwch rhywiol, llawdriniaethau meddygol, marwolaeth a gweddillion dynol.

Polisi hwyrddyfodiaid: Bydd y drysau’n agor chwarter awr cyn amser dechrau’r perfformiad. Dylech gyrraedd yn brydlon gan fod capasiti’r digwyddiad yn gyfyngedig. Bydd unrhyw seddi sy’n wag 5 munud cyn amser dechrau’r perfformiad yn cael eu rhyddhau a’u hail-werthu wrth y drws ar sail cyntaf i’r felin.

18+

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share