Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

EXPERIMENTICA 24: good cop bad cop: MINCE

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Rywle rhwng sgwrs grŵp, perfformiad a Karaoke cyfunol, mae MINCE yn archwilio’r “man tenau” ym maes perfformiad lle mae mytholeg, realiti, a hunan-fytholeg yn dod ynghyd. O fythau creu symbolaidd Cymreig drwy fythau’n ymwneud â pherfformiadau arloesol, i dameidiau brith gof o’n hôl-gatalog helaeth, mae MINCE yn chwarae gyda phŵer y terfyn rhwng ‘go iawn’ a ‘dychmygol’.

good cop bad cop yw partneriaeth greadigol John Rowley a Richard Huw Morgan. Maen nhw’n cydweithio ers 1990, gyda’r cwmni perfformio byd-enwog Brith Gof yn wreiddiol, ac ers 1992 maen nhw wedi creu 75 o’u gweithiau eu hunain. Maen nhw wedi perfformio’n rhyngwladol gyda chefnogaeth gan y British Council a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Maen nhw’n creu ffurfiau a chyd-destunau newydd ar gyfer perfformiad, o’r gwaith byrfyfyr 15 munud ar setiau pobl eraill i helfa doniau lleisiol amgen ledled Cymru wedi’i darlledu’n fyd-eang, i raglen gelfyddydau wythnosol ar y radio. Caiff y gwaith ei lunio yn “y byd go iawn” heb rwyd ddiogelwch y ffurf sefydledig, ar gyfer “Cymunedau Dychmygol” Cymru’r dyfodol.

Hygyrchedd: BSL gan Cathryn McShane

Nodyn: ni fydd modd mynd â ffonau a chamerâu i mewn i’r theatr, a byddan nhw’n cael eu storio’n ddiogel yn ystod y perfformiad.

Polisi hwyrddyfodiaid: Bydd y drysau’n agor chwarter awr cyn amser dechrau’r perfformiad. Dylech gyrraedd yn brydlon gan fod capasiti’r digwyddiad yn gyfyngedig. Bydd unrhyw seddi sy’n wag 5 munud cyn amser dechrau’r perfformiad yn cael eu rhyddhau a’u hail-werthu wrth y drws ar sail cyntaf i’r felin.

Nodyn cynnwys: Noethni

18+

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share

Gwirfoddoli

Mae ein gwirfoddolwyr yn grŵp ffantastig o bobl sy'n dod o bob cefndir ond yn rhannu'r un peth yn gyffredin - ei angerdd am Chapter a beth y rydym yn ein gwneud.

Learn More