Performance

Good News From the Future: Sit. Still

  • 1h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

Fel rhan o Reciprocal Gestures: tymor o symudiad a dawns yn Chapter, mae Good News From The Future yn cyflwyno Sit.Still, sef gwaith newydd ar y gweill a ddatblygwyd yn nhymor yr hydref yn ystod eu sesiynau Sul yn yr adeilad.

Bydd rhagddangosiad o’r gwaith yn cael ei berfformio yng nghaffi Chapter am 1:30pm ddydd Sul 12 Tachwedd, cyn y perfformiad llawn yn y theatr am 7:00pm y noson honno.

Cwmni o berfformwyr 60+ oed yw Good News From The Future, creadigaeth Mike Pearson sy’n dathlu heneiddio ar ôl cyfres o weithdai cyhoeddus yn ystod haf 2014. Gan ddefnyddio ymarferion theatr gorfforol, aeth Mike ati i siapio a meithrin y cwmni tan ei farwolaeth gynamserol yn 2022. Rydyn ni’n parhau i ddatblygu’r gwaith yma gydag arweiniad a chefnogaeth Simon Thorne, gydag ambell ysgogiad gan Marega Palser. Mae ein neges ni’n syml: mae heneiddio’n ymwneud â dal ati, gan ddefnyddio profiad unigolion sydd wedi teithio drwy amser mewn coreograffi hynod, ecsentrig a rhydd sy’n addas - neu’n anaddas - i’n hoed!

Share