Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Films at Chapter 12 – 25 April

Dyma bythefnos o ffilmiau pwerus sy’n gwrthwynebu chi a materion cym­deithasol wrth ymdrochi chi i mewn i esthetig breuddiadwy ac ymbleseru mewn storiâu o ledled y byd. 

Ffilm wedi’i nomineiddio yn Oscars y flwyddyn yma am Ffilm Ryngwladol Gorau oedd Io Capitano, ffilm emosiynol a theimladwy iawn sy’n dilyn dau fachgen yn ei harddegau ar daith o Orllewin Affrica i’r Canoldir am fywyd gwell. Yn ein sinemau o 12 – 18 Ebrill.

Wynebu cyfalafiaeth yn y chwedl breuddiadwy The Delinquents wrth i weithiwr banc Moran yn Buenos Aires yn llunio cynllun i ryddhau ei hunan o undonedd corf­for­aethol a threiddio mewn i ddyfodol dystopaidd America ar ôl ryfel a dilyn pedwar newyddiadurwr wrth i’r gelyn agosáu yn Civil War.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at ein gŵyl pedair-diwrnod o celfyddyd-byw Experimentica! Cyflwynwyd Lou Lou Sainsbury ei gwaith delwedd symudol wedi’i dilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Rebecca Jagoe wedi’i chadeirio gan Claire Vaughan ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill, 5yp. Ar ddydd Sul mae Holly Slingsby yn dangos ei gwaith newydd, Holding Shards ochr yn ochr â hyn mae An Enclosed Garden, wedi’i dilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Claire Vaughan. Mae’r ddau ddangosiad yn cynnwys is-deitlau a IAP.

Darganfod bywyd o Amy Winehouse, cerddor anhygoel o dalentog yn biopic Back to Black ac os nad ydych allu mynychu’r theatr dewch i groesawu’r ffantasia epig NT Byw: Nye a’r eicon Michael Sheen sy’n chwarae Aneurin Bevan I’n sgrin fawr ar 23 Ebrill & 7 Mai.

O ddydd Iau 25 i dydd Sul 28 Ebrill, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn gynnal ei gwyl am 2024! Rydym yn wrth ein foddau i ddathlu y gorau o animeiddio gyda dangosiadau o 96 o ffilmiau byr, yn ogystal â thair ffilm nodwedd animeiddiedig fawr, rhai o brif artistiaid animeiddio’r byd yn rhannu eu harbenigedd a chyfle i wneud eich ffilm eich hun i’w dangos yn yr ŵyl.

  • Published: