Ffilmiau Chapter 3 – 16 Tachwedd
- Published:
Am bythefnos arbennig o ffilmiau sydd o’n blaenau! Yn dechrau’n fuan mae’r ŵyl anhygoel Doc N Roll, sy’n rhannu ffilmiau dogfen gan wledd o eiconau ac arloeswyr cerddorol, o’r band o Abertawe, Trampolene, i’r eiconig TLC. Mae’r rhestr lawn i’w gweld yma.
Gan barhau â’n tymor Powell a Pressburger, rydyn ni’n falch iawn o wahodd yr awdur, gwerthwr llyfrau, trefnydd a churadur ffilm So Mayer i roi cyflwyniad i Black Narcissus, gan dynnu sylw at y rhywioldeb cwiar oedd i’w weld drwy eu gwaith. Mae The Prestige gan Christopher Nolan hefyd yn dod ag obsesiwn, cyfrinachedd ac aberth i’n sgrin yn y ffilm gyffro seicolegol yma.
Mae ein gwasanaeth rheolaidd sy’n cyflwyno’r ffilmiau annibynnol a phrif ffrwd gorau, yn cynnwys Bottoms, comedi gwiar sy’n dod â chlwb ymladd i’r ysgol; The Pigeon Tunnel, sy’n rhannu stori’r ysbïwr David Cornwell, neu John le Carre; Dance First, sy’n cymryd golwg ddofn ar y cawr llenyddol, Samuel Beckett, a chymaint mwy, gan gynnwys uchafbwynt o Ŵyl Ffilmiau Llundain, ymdriniaeth Molly Manning Walker â chydsyniad a gorfodaeth ar wyliau ym Malia: How to Have Sex.
Fel rhan o Sain Ffagan 75, rydyn ni’n dathlu gyda dangosiad o Atgyfodi gan breswylydd Chapter, John Rea, gyda sgwrs i ddilyn gyda Jon Gower. Rydyn ni mor falch o gael cyfle i rannu gwaith ein preswylwyr!
Yna, mae NT yn Fyw ’nôl! Mae Skylight, gyda Bill Nighy yn serennu, yn adrodd stori un noson o oerfel. Dewch i gynhesu a’i gwylio yn ein Sinema am un noson yn unig.
Canllaw Ffilm
Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!