Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

Five Films For Freedom + sesiwn holi ac ateb

  • 2h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m

Mae British Council Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter yn falch iawn i gynnal sgriniad arbennig i nodi degfed penblwydd Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films for Freedom - rhaglen arlein o ffilmiau LHDTCRhA+ pellgyrhaeddol a rhyngwladol sy'n dathlu a chefnogi hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, rhyngrywiol ac arywiol.

Mae Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films for Freedom yn bartneriaeth rhwng y British Council a BFI Flare sy'n cyflwyno ffilmiau byr LHDTCRhA+ y gellir eu gwylio arlein, am ddim, ac yn unrhyw ran o'r byd. Mae'r rhaglen wedi bod yn rhedeg ers 2015, ac wedi cael ei gweld dros 23 miliwn o weithiau mewn dros 200 o wledydd.

Eleni, ar ddegfed penblwydd y rhaglen byddwn yn cyflwyno straeon LHDTCRhA+ sy'n atseinio â chryfder ac ysbryd - o hanes herfeiddiol Compton's 22 yn San Francisco, i daith deimladwy tua chariad a chytgord yn Halfway. Mae detholiad eleni, sy'n cynnwys Little One, Cursive a The First Kiss, yn plymio'n ddwfn i themau am deulu, hunaniaeth ac ymdrech pobl i gael eu derbyn.

Little One

Cyfarwyddwyd gan Clister Santos (Y Ffilipinau – 9 munud)

Mae mam feichiog sy'n ansicr am sut i fagu plentyn yn trefnu cyfweliad gyda'i dau dad hoyw. Ond mae ffawd yn ymyrryd wrth i dad y babi gael trawiad ar y galon. Mae atgofion a recordiwyd ar hen gamgordydd yn ei helpu i gnoi cil ar hanes ei theulu.

Cursive

Cyfarwyddwyd gan Isabel Steubel Johnson (y D.U. – 9 munud)

Pan fo menyw sydd ar fin dod â pherthynas i ben yn cael help gan ddieithryn dirgel i wella ei llawysgrifen, mae hi'n ffeindio'r llais mewnol y bu'n dyheu amdano erioed.

Halfway

Cyfarwyddwyd gan Kumar Chheda (India – 14 munud)

Pan fo cwpl sydd mewn perthynas gythryblus yn cael eu hunain wrth ddwy fynedfa wahanol i Draeth Juhu, maen nhw'n cael eu gorfodi i gerdded tuag at ei gilydd, a chwrdd hanner ffordd.

The First Kiss

Cyfarwyddwyd gan Miguel Lafuente (Sbaen – 9 munud)

Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig i Andi. Mae e ar ei ffordd i Madrid ar gyfer dêt cyntaf gyda bachgen y gwnaeth ei gyfarfod arlein. Ond dyw pethau ddim yn troi allan cweit fel y mae'n disgwyl.

Compton's 22

Cyfarwyddwyd gan Drew de Pinto (UDA – 18 munud)

Dair blynedd cyn Stonewall, penderfynodd gweithwyr rhyw trawsryweddol a brenhinesau drag sefyll a herio trais gan yr heddlu yn Compton's Cafeteria yn ardal Tenderloin, San Francisco. Mae Compton's 22 yn dychmygu beth ddigwyddodd.

In partnership with BFI Flare: London LGBTQIA+ Film Festival, we're celebrating global LGBTQIA+ stories, in support of lesbian, gay, bisexual, transgender, queer, intersex and asexual people across the world.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share