Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

One Life

  • 1h 50m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 50m

Prydain | 2023 | 110’ | tystysgrif i’w chadarnhau | James Hawes

Anthony Hopkins, Helena Bonham Carter, Johnathan Pryce, Jonny Flynn, Lena Olin

Mae Nicholas Winton, brocer stoc o Brydain ym Mhrâg, yn trefnu i blant Iddewig gael eu hachub rhag y Natsïaid a’u cludo i Brydain, gyda chymorth ei fam a chriw clòs o wirfoddolwyr y Kindertransport, cyn goresgyniad y ddinas. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae Winton yn dal i gael ei boenydio gan dynged y rhai na lwyddodd i’w hachub, tan i sioe deledu fyw ei synnu gyda’r plant wnaeth oroesi, sydd bellach yn oedolion yn eistedd o’i gwmpas, ac mae’n dechrau dod i delerau â galar ei orffennol. Drama ysgubol epig, gyda chast hyfryd o Gymru yn arwain; dyma astudiaeth o fywyd nodedig wedi’i pherfformio’n hyfryd, a ffilm amserol i’n hatgoffa o’r angen i helpu’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth a phŵer gweithredoedd unigol i amddiffyn hawliau dynol, hyd yn oed pan fydd pethau’n ymddangos yn anobeithiol.

“Yn destament i bŵer y da, gyda chast o fri sy’n cynnwys Anthony Hopkins coeth a chynnil... dyma neges amserol i’n hatgoffa o bwysigrwydd gweithredoedd unigol mewn cyfnod pan mae argyfwng ffoaduriaid y byd ar raddfa nas welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.”

Alissa Simon, Variety

Share