Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

A Matter of Life and Death (U)

  • 1h 44m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 44m

Prydain| Michael Powell, Emeric Pressburger | David Niven, Roger Livesey, Kim Hunter


Ar ôl goroesi naid o awyren oedd ar dân yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae’r peilot RAF Peter Carter yn cwrdd â’r gweithredwr radio o Americana y mae newydd rannu ei ddymuniadau olaf â hi, ac mae’r ddau’n cwympo mewn cariad. Ond mae gwall biwrocrataidd wedi digwydd yn y nefoedd ac mae negesydd yn dod i roi gwybod i Peter y dylai fod wedi marw yn yr awyren, a bod yn rhaid iddo amddiffyn ei hawl i aros ar y Ddaear. Mewn lliw technicolour gogoneddus wedi’i saethu gan y sinematograffydd Jack Cardiff, a gyda pherfformiadau disglair gan Livesey a Niven, dyma gampwaith godidog sy’n cyflwyno’r achos dros bŵer trosgynnol cariad. 

Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

Mae’r syniad o wrthdaro rhwng pŵer cariad yma ar y Ddaear a’r nefolaidd yn cael ei archwilio yn y ddwy ffilm yma mewn deialog â’i gilydd. Yn A Matter of Life and Death a Wings of Desire, rydyn ni’n cwrdd â bodau’r byd ysbrydol sy’n bell ac yn groes i fudredd bywyd, a’r ddau ar drobwynt yn hanes y byd – brwydrau’r Ail Ryfel Byd a Rhyfel Oer Berlin. Beth mae pobl wedi’i wneud i’w hunain, a sut gellir eu hachub? Mae’r ddwy ffilm yn canfod cysur mewn cariad. Yn y bil dwbl breuddwydiol yma, mae syniadau mawr a grand vistas yn cael eu cyfleu’n hyfryd ar y sgrin fawr.  

Share