Film

P&P: Wings of Desire (12A)

  • 2h 9m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 9m

Gorfllewin Yr Almaen | Wim Wenders | Bruno Ganz, Peter Falk

Mae dau angel, Damiel a Cassiel, yn llithro drwy strydoedd Berlin ranedig, gan arsylwi’r boblogaeth brysur, yn cynnig eiliadau o obaith anweledig i’r rhai mewn trallod, ond heb ryngweithio â nhw byth. Yna, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd, mae Damiel yn cwympo mewn cariad gyda’r artist trapîs unig Marion. Mae’r angel yn dyheu am gael profi bywyd yn y byd corfforol, ac yn canfod, gyda geiriau doeth gan yr actor Peter Falk (sy’n chwarae ei hunan), efallai ei bod hi’n bosib iddo gymryd ffurf ddynol. Mewn du a gwyn aruchel o hardd, dyma ffilm hynod deimladwy am gariad.


Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.


Mae’r syniad o wrthdaro rhwng pŵer cariad yma ar y Ddaear a’r nefolaidd yn cael ei archwilio yn y ddwy ffilm yma mewn deialog â’i gilydd. Yn A Matter of Life and Death a Wings of Desire, rydyn ni’n cwrdd â bodau’r byd ysbrydol sy’n bell ac yn groes i fudredd bywyd, a’r ddau ar drobwynt yn hanes y byd – brwydrau’r Ail Ryfel Byd a Rhyfel Oer Berlin. Beth mae pobl wedi’i wneud i’w hunain, a sut gellir eu hachub? Mae’r ddwy ffilm yn canfod cysur mewn cariad. Yn y bil dwbl breuddwydiol yma, mae syniadau mawr a grand vistas yn cael eu cyfleu’n hyfryd ar y sgrin fawr.  

Share