Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Eich digwyddiad

Pa ddigwyddiadau alla i eu cynnal yn Chapter?

Ffilmio a Ffotograffau

Dros y blynyddoedd, mae llawer o ffotograffwyr a chwmnïau cynhyrchu wedi defnyddio Chapter fel cefndir neu leoliad ffilmio. Yn ddiweddar, efallai y byddwch wedi’n gweld ni yn Iaith ar Daith ar S4C, rhaglen ddogfen y BBC, A Killing in Tiger Bay, a hyd yn oed His Dark Materials.

Oherwydd siâp a steil anarferol yr adeilad (cymysgedd o hen Ysgol Uwchradd Canton a’n diweddariadau modern ni), mae ganddon ni ystod anhygoel o ofodau: gallai’r ystafelloedd gyda nodweddion cyfnod, cyntedd mawr ac agored, neu’r gerddi hardd helpu i wireddu eich gweledigaeth.

Dangosiadau ffilm

Mae ganddon ni ddwy sgrin yma yn Chapter, gyda lle ar gyfer cadeiriau olwyn a dolenni sain cymorth clyw yn y ddwy.

Mae ein sinemâu yn wahanol iawn o ran maint ac arddull, ond mae’r ddwy’n berffaith ar gyfer dangosiadau preifat, cyflwyniadau diwydiant, neu gynadleddau corfforaethol.

Bydd eich digwyddiad yn cael ei gefnogi’n llawn gan y tîm Gwasanaethau Ymwelwyr, gyda thaflunwyr mewnol profiadol iawn yn gallu cynorthwyo ag opsiynau technegol a goleuo.

Cyfarfodydd a Chynadleddau

Mae ganddon ni ystod o ofodau sy’n addas ar gyfer eich anghenion cyfarfodydd a chynadleddau. Mae’r rhain yn amrywio o ran cymeriad a maint, felly mae’n well archwilio’r ystod o ofodau sydd ganddon ni yma neu siarad ag aelod o’r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a fydd yn hapus i’ch cynghori.

Gallwn gynnig gofod ag offer llawn a fydd yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i gael cyfarfod creadigol a llwyddiannus.

Achlysuron Arbennig

Gall ein gofodau llogi fod yn addas ar gyfer pob math o achlysuron arbennig, o bartïon pen-blwydd i ddigwyddiadau ymddeol, derbyniadau priodas i aduniadau teuluol.

Mae ein hystafelloedd yn amrywio o ran cymeriad a maint, felly mae’n well archwilio’r gofodau sydd ganddon ni yma neu siarad ag aelod o’r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a fydd yn hapus i’ch cynghori.

Perfformiadau Cyhoeddus

Mae ganddon ni ddau ofod theatr blwch du sy’n berffaith ar gyfer perfformiadau cyhoeddus.

Mae gan ein theatrau systemau goleuo a sain cynhwysfawr ynghyd â chysylltiad rhyngrwyd ardderchog.

Mae llogi’n cynnwys cymorth gan un o’n technegwyr profiadol, a gallwn gynnig gwaith cynllunio goleuo pwrpasol am gost ychwanegol.

Cofiwch, os hoffech i ni hysbysebu eich digwyddiad drwy ein sianeli marchnata, fydd llogi a defnydd o’n gofodau theatr ddim yn seiliedig ar argaeledd yn unig. Byddwn ni bob amser yn ystyried ansawdd artistig, addasrwydd i’r gynulleidfa, ac a yw eich archeb yn gweddu i’n safonau a’n hamserlen raglennu dymhorol.

Ymarferion

Mae ganddon ni lawer o ofodau sy’n addas ar gyfer ymarferion, ac mae llawer o sioeau theatr diweddar yng Nghymru a’r tu hwnt wedi eu defnyddio yn ystod y camau datblygu cynnar. O’n theatrau i ystod o ystafelloedd mwy clòs llawn cymeriad, gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion penodol. Mae’n well siarad gydag aelod o staff i weld pa ofod sy’n gweddu i’ch gofynion chi, gan gynnwys offer, llawr, a gallu technegol.

Cewch y Newyddion Diweddaraf

Cofrestrwch i fod y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ffilmiau a pherfformiadau i ddod, yn ogystal â gostyngiadau i’r rhestr e-bost yn unig, a mwy!

Hygyrchedd

Mae ein holl ystafelloedd llogi yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, gyda dyfeisiau gwrando cynorthwyol a thai bach hygyrch yn agos.

Cyn i chi ymweld, gallwch ddysgu mwy am ein lleoliad drwy wrando ar ein taith disgrifiadau sain o gwmpas yr adeilad yma.

Parcio

Mae gennym faes parcio mawr am ddim y tu ôl i’r adeilad, er mwyn sicrhau bod modd i’ch gwesteion gyrraedd yn hwylus. Mae chwech lle ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, gyda thri lle parcio Bathodyn Glas arall yn y maes parcio blaen.

Ymholiadau

Gallwch wneud ymholiad am logi un tro neu archeb reolaidd, gyda neu heb letygarwch, staffio neu ofynion technegol, ac rydyn ni’n cynnig cyfraddau hyblyg a gostyngol yn unol â hynny. Llenwch y ffurflen yma a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Lletgarwch

Opsiynau Lletgarwch

Os byddwch chi’n cynnal digwyddiad gyda ni, mae modd trefnu lletygarwch ymlaen llaw. Mae ein bwydlen yn cynnig detholiad o de, coffi, diodydd meddal, brecwast, cinio ac opsiynau bwffe poeth ac oer. Gallwn drafod bwydlen bwrpasol gyda chi os oes gennych rywbeth arbennig mewn golwg. Mae detholiad o win, cwrw a choctels (neu moctels) ar gael hefyd.

I weld ein Bwydlen Lletygarwch, cliciwch isod

A cafe assistant serves two customers at the till in Chapter, to the right is a glass cabinet full of cakes and biscuits.