Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Cyrraedd yma

Cyflwyniad i Chapter

Helo! Ein cyfeiriad yw: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd, CF5 1QE.

CerddedRydyn ni yng ngorllewin Caerdydd, tua 25 munud ar droed o ganol Caerdydd, 15 munud o Stadiwm Dinas Caerdydd, a 10 munud o Gaeau Llandaf. Gallwch ddod o hyd i ni ar Google Maps, Apple Maps, neu ar unrhyw fap da o Gaerdydd.

Bws

Gallwch ddal bysiau rhif 17, 18, 13 neu C1 yn uniongyrchol o ganol y ddinas (i arhosfan Canolfan Gelfyddydau Chapter).

Dewch o hyd i’r daith fws gyflymaf i Ganolfan Gelfyddydau Chapter drwy Bws Caerdydd yma

Beic

Mae ganddon ni orsaf feiciau dan do o flaen ein prif fynedfa, ac mae gorsaf rhannu beiciau OVO tu allan i’r adeilad ar Blas y Farchnad.

Trên

Yr orsaf drenau agosaf i ni yw Parc Ninian (NNP) ac mae cysylltiadau bws aml o Gaerdydd Canolog (CDF).

Car

Er hwylustod, mae ganddon ni faes parcio am ddim y tu ôl i'r adeilad gyda chwech lle dynodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas. Mae tri lle Bathodyn Glas arall yn ein maes parcio blaen.

Mae ein maes parcio cyhoeddus yn gallu bod yn brysur iawn, ond mae sawl opsiwn arall yn agos sy’n cael eu gweithredu gan Gyngor Caerdydd, a rhwng 8am a 6pm maen nhw am ddim am hyd at ddwy awr. Wedi hynny, mae ffi safonol o £3 y diwrnod. Gallwch barcio am ddim rhwng 6pm ac 8am, a drwy'r dydd ar ddydd Sul.

Mae manylion pob Maes Parcio sy’n agos i Ganolfan Gelfyddydau Chapter drwy Gyngor Caerdydd yma

Tacsi

Mae llawer o gwmnïau tacsi yn gwasanaethu Caerdydd, gan gynnwys Dragon Taxis: 02920 333 333, Premier Taxis: 02920 555 555, Capital Cabs: 02920 777 777 yn ogystal ag Uber ac Ola.