Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Pantri Cymunedol

Ychwanegu rhodd o £3 i eich archeb i stocio’r Pantri Cymunedol.

Wrth dalu hyn o flaen llaw mae’n sicrhau bod ein Pantri wedi’i llenwi efo bwyd am ddim, am bwy bynnag sydd angen heb unrhyw cwestiynau.

Gadewch i’n staff wybod a bydden nhw’n ychwanegu £3 i’ch archeb, neu rhodd y £3 o flaen llaw ar lein, trwy’r dolen isod.

O 7 Tachwedd 2022, agoron ni y Pantri Cymunedol helpu pobl i ddod â dau ben llinyn ynghyd ac i gydnabod yr argyfwng costau byw sy’n effeithio ar gymaint o bobl ledled Prydain, a gan adeiladu ar boblogrwydd y cinio am ddim i blant dros yr hanner tymor.

Adnodd sy’n stocio bwyd yw pantri cymunedol, sy’n rhoi ychydig yn fwy o urddas i bobl ddewis beth maen nhw eisiau ei fwyta. Does dim telerau, dim angen cofrestru, na dim meini prawf i fod yn gymwys, a bydd yn gweithredu ac yn ffynnu ar garedigrwydd cymdogion ac ymwelwyr i helpu i stocio’r pantri cymunedol. Mae ar agor ac ar gael i bawb ac unrhyw un. Cymerwch beth sydd ei angen arnoch chi, a rhowch beth allwch chi.

Mewn astudiaeth ddiweddar gan Sefydliad Bevan, adroddwyd bod teuluoedd yn ei chael yn anodd dod â dau ben llinyn ynghyd – gyda mwy nag un ymhob wyth o gartrefi yng Nghymru (13%) yn ei chael yn anodd fforddio eitemau bob dydd weithiau neu’n aml.

Mae Pantri Cymunedol Chapter yn ffordd fach o helpu i gynnig bwyd ychwanegol na all pobl eu fforddio, yn hytrach na disodli bwyd y gellir ei fforddio; ac felly bydd Chapter yn cefnogi’r Pantri Cymunedol gyda rhoddion rheolaidd. Rydyn ni’n annog y bobl yn ein cymuned sy’n gallu fforddio gwneud hynny i gefnogi’r fenter newydd yma gyda rhoddion o fwyd nad yw’n mynd yn ddrwg yn gyflym ac sydd o fewn ei ddyddiad. Ni fydd staff gan y Pantri Cymunedol, ond bydd yn cael ei reoli gan dîm cyfeillgar blaen y tŷ Chapter, sydd wedi bod yn arwain ar y fenter yma.

Taliad o Flaen Llaw

Ychwanegu rhodd o £3 i eich archeb i stocio'r Pantri Cymunedol.

Wrth dalu hyn o flaen llaw mae'n sicrhau bod ein Pantri wedi'i llenwi efo bwyd am ddim, am bwy bynnag sydd angen heb unrhyw cwestiynau.

Gadewch i'n staff wybod a bydden nhw'n ychwanegu £3 i'ch archeb, neu rhodd y £3 o flaen llaw ar lein, trwy'r dolen isod.

Darganfod mwy a sut i roi yma.

Rhoddion Pantri Cymunedol

Mae Pantri Cymunedol Chapter yn ffordd fach o helpu i gynnig bwyd ychwanegol na all pobl eu fforddio, yn hytrach na disodli bwyd y gellir ei fforddio; ac felly bydd Chapter yn cefnogi’r Pantri Cymunedol gyda rhoddion rheolaidd. Rydyn ni’n annog y bobl yn ein cymuned sy’n gallu fforddio gwneud hynny i gefnogi’r fenter newydd yma gyda rhoddion o fwyd nad yw’n mynd yn ddrwg yn gyflym ac sydd o fewn ei ddyddiad. Ni fydd staff gan y Pantri Cymunedol, ond bydd yn cael ei reoli gan dîm cyfeillgar blaen y tŷ Chapter, sydd wedi bod yn arwain ar y fenter yma.

£
Arhoswch...
Something went wrong