Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Cymynroddion

Fydd cymynrodd ddim yn costio dim i chi nawr, ond bydd yn golygu eich bod yn helpu i ddiogelu Chapter ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn parhau i gefnogi rhan benodol o’n rhaglen, cefnogi Chapter fel canolfan bwysig i’r gymuned, neu gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru, mae cymynrodd fel rhan o’ch ewyllys yn gwneud gwahaniaeth go iawn a fydd yn para am oes. 

Does dim rhaid iddo fod yn gymhleth, ac os ydych chi’n ystyried gwneud hyn dylech geisio cyngor proffesiynol gan eich cyfreithiwr.

Os hoffech ddysgu mwy ynghylch pwy fydd yn elwa ar eich rhodd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm Datblygu Busnes yma.

Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich ewyllys, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni er mwyn i ni allu cydnabod eich rhodd yn y ffordd fwyaf priodol.