Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Amdanom

Mae Chapter yn lleoliad ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes, sydd â’i wreiddiau yng Nghaerdydd, Cymru. Cafodd ei sefydlu gan artistiaid yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac rydyn ni wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.

Rydyn ni’n ganolfan ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith arloesol, difyr, o safon fyd-eang. Mae ein horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o’r gwaith gorau ym maes celf genedlaethol a rhyngwladol. Mae ein gofodau theatr yn llwyfan ar gyfer dramâu, dawns, cerddoriaeth, celf fyw a llawer mwy sy’n arbrofol ac yn ysgogi’r meddwl. Mae ein sinemâu yn cynnig ffilmiau annibynnol a heriol, ochr yn ochr ag ystod o wyliau a digwyddiadau unigryw, ac rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd, drwy Ganolfan Ffilm Cymru.

Ochr yn ochr â’n rhaglen graidd, rydyn ni hefyd yn gartref i 53 o artistiaid a chwmnïau creadigol sydd wedi’u lleoli yn ein stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilm sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, ac i stiwdios fframio celf, printio, a recordio, mae ein cymuned greadigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

Mae ein rhaglen a’n cymuned yn dod at ei gilydd yn ein caffi bar clodwiw sydd â lle i tua 120 o bobl eistedd, ac mae’n lle gwych i gwrdd â ffrindiau, i ganfod cornel dawel i wneud ychydig o waith oddi cartref, neu i gael tamaid o fwyd a diod ffres a lleol.

Mae llawer o bobl yn ymweld â ni wrth fynd i ystod o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau cyffrous sy’n cael eu cynnal gan wahanol fusnesau lleol bob dydd. Rhowch gynnig ar greu printiau, Lindy Hop, Tae Kwando, bale, tap, cerddoriaeth i fabanod, y gerddorfa ieuenctid, a llawer mwy, yn awyrgylch cynhwysol ein safle ymlaciol. Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o ofodau unigryw a rhesymol i’w llogi os ydych chi’n chwilio am safle ffilmio anarferol, lleoliad hygyrch ar gyfer cynhadledd neu gyfarfod, neu rywle i ddathlu achlysur arbennig.

Mae gan ein hadeilad fynediad gwastad drwy ddrysau awtomatig, a mynediad lifft i'r llawr cyntaf.

Mae ganddon ni faes parcio am ddim gyda chwe lle parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Mae ganddon ni gyfleusterau Changing Place, pob rhywedd a mynediad anabl drwy’r adeilad.Rydyn ni’n croesawu pawb, a tra byddwch chi yma, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni.

Darllenwch ein Cod Ymddygiad sefydliadol.Dysgwch ragor am hygyrchedd yma.

Cyflwyniad i Chapter

Gwirfoddoli

Mae ein gwirfoddolwyr yn grŵp ffantastig o bobl sy'n dod o bob cefndir ond yn rhannu'r un peth yn gyffredin - ei angerdd am Chapter a beth y rydym yn ein gwneud.

Learn More