
Beth ddylech chi wybod cyn ymweld
Croeso! Ar y dudalen yma, bydd gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n dod i Chapter, a manylion y mesurau sydd ganddon ni ar waith i sicrhau bod eich ymweliad mor bleserus a diogel â phosib.
Rydyn ni’n diweddaru’r dudalen yma’n rheolaidd, felly cofiwch edrych arni cyn ymweld â ni er mwyn sicrhau eich bod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Newyddion diweddaraf Mawrth 2022
Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n gwneud rhai newidiadau:
- O 1 Ebrill ymlaen, byddwn ni’n dychwelyd at gapasiti llawn yn ein sinemâu a’n theatrau. Ni fydd seddi penodol yn cael eu dyrannu yn dal i fod.
- Does dim angen i chi ddangos pàs Covid i gael mynediad i’n sinemâu a’n theatrau.
- Mae cyfyngiadau ar wisgo masgiau’n codi. Serch hynny, gofynnwn i chi ystyried pobl sy’n fwy bregus na chi, ac rydyn ni’n cynghori eich bod yn parhau i wisgo masgiau os gallwch chi. Bydd ein staff yn parhau i wisgo gorchuddion wyneb.
Dyma fanylion llawn beth ddylech ei ddisgwyl wrth ymweld â’n Caffi Bar, Sinemâu a Theatrau neu’r Oriel.
Y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'ch cadw chi'n ddiogel
- Gorsafoedd diheintio dwylo
- Trefn lanhau drylwyr
- Capasiti llai
- Cyfarpar diogelu personol i'r staff
- Mwy o arwyddion i'ch tywys
- Archebion ar-lein ar gyfer y Caffi Bar a'r Sinema
- Tocynnau hunan-sganio
- Taliadau di-gyswllt
Mae ein staff wedi cael hyfforddiant llawn ar y mesurau iechyd a diogelwch newydd, ac maen nhw ar gael i'ch helpu ar draws yr adeilad neu wrth ein Desg Wybodaeth. Gallwch adnabod ein timau Blaen y Tŷ gan y byddan nhw'n gwisgo crysau Chapter.