
Performance
EXPERIMENTICA 24: Ffion Campbell-Davies: Your skin is my land (home)
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
Gan ymgorffori defod, qigong a Meddygaeth Tsieineaidd Draddodiadol drwy somateg a myfyrdod, mae Your skin is my land(home) yn dod â’r gynulleidfa a’r perfformiwr i un cae unedig. Drwy waith dylunio sain, sgwrs, a lŵps byw, bydd Ffion yn myfyrio ar y berthynas rhwng y corff a’r ddaear, gan gynnig sawl ffordd i’r cyfunol gael mynediad at ein rhyng-gysylltiad.
Artist amlddisgyblaethol a Chyfarwyddwr Cyswllt House of Absolute yw Ffion. Maen nhw wedi’u geni a’u magu yng Nghymru, yn siaradwr Cymraeg anneuaidd a rhyweddhylifol, gyda threftadaeth gymysg ac yn byw yn Llundain. Maen nhw wedi graddio o LCDS a Calarts. Maen nhw’n ymarferydd llais a symud ym meysydd ffurfiau defodau brodorol arbrofol, therapi holistig, a chrefft ymladd.
Mae Ffion yn gynhyrchydd cerdd a ffilm ac yn cyfansoddi eu gwaith eu hun o fewn ymbarél y celfyddydau gweledol. Maen nhw wrthi’n ymchwilio i ddulliau paentio perfformiadol rhyngddisgyblaethol, sy’n cwmpasu eu sgiliau celf byw ac arddangosiaeth. Mae eu gwaith yn archwilio hunaniaeth, rhywiaeth, seicoleg gwahaniaethu, a defod fel math o iachâd, cysylltiad a chymuned.
Hygyrchedd: BSL gan Nez Parr
Polisi hwyrddyfodiaid: Bydd y drysau’n agor chwarter awr cyn amser dechrau’r perfformiad. Dylech gyrraedd yn brydlon gan fod capasiti’r digwyddiad yn gyfyngedig. Bydd unrhyw seddi sy’n wag 5 munud cyn amser dechrau’r perfformiad yn cael eu rhyddhau a’u hail-werthu wrth y drws ar sail cyntaf i’r felin.
Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio.
Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.
More at Chapter
-
- Art
Eimear Walshe: [É]IRE
-
- Art
EIMEAR WALSHE: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
Archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro, gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.
-
- Art
Steve McQueen: Grenfell
Fe’i gwnaed mewn ymateb i’r tân yn Nhŵr Grenfell yng Ngogledd Kensington, Gorllewin Llundain yn 2017 — trychineb lle bu 72 o bobl farw. Er mwyn creu cofnod parhaus, ffilmiodd McQueen y tŵr cyn iddo gael ei orchuddio.
-
- Art
Feeding Chair
Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair, sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus.