
Art
EXPERIMENTICA 24: Kathryn Ashill + Paul Hurley: The Composting Heap
- 1h 30m
Nodweddion
- Hyd 1h 30m
Grŵp darllen rhyngddisgyblaethol estynedig, i ymgysylltu â themâu’r ŵyl eleni. Bydd ystod o destunau diwylliannol - ffilmiau, fideos cerddoriaeth a phodlediadau - yn cael eu casglu a’u cyflwyno gan yr artistiaid Kathryn Ashill a Paul Hurley. Bydd y domen yn ofod anffurfiol a hygyrch i gyfuno, treulio a thrawsnewid syniadau yn ddeunydd ffrwythlon.
Mae Kathryn Ashill a Paul Hurley yn artistiaid-ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol, ac mae gwaith y ddau’n ymdrin â chyfarfyddiadau dynol ac annynol, cwiardeb a pherfformiad. Ers dechrau mewn byd o arfer arbrofol yng Nghaerdydd yn y 00au, mae’r ddau wedi bod i ffwrdd ar lwybrau artistig ac academaidd, cyn uno unwaith eto’n fwy diweddar, gan gysylltu drwy eu cyffro am syniadau, creu a gwneud. Mae’r ddau wedi bod yn rhan o Experimentica fel artistiaid, a hefyd fel cyfranogwyr a threfnwyr grwpiau darllen a brecwastau artistiaid.
Mae Kathryn yn byw yn y Barri, ac mae Paul yn byw ym Mryste. Mae gan y ddau brofiad helaeth yn creu perfformiadau, arddangosfeydd a phrosiectau cyfranogol ledled Prydain. Mae Kathryn yn artist gweithredol, ac wedi gorffen eu PhD ym Mhrifysgol Manceinion yn ddiweddar. Roedd y corff ymchwil yn canolbwyntio ar gysylltedd rhyngrywogaethol ar draws celf perfformio a gwyddoniaeth a therapi anifeiliaid, yn benodol drwy lens theori cwiar ac astudiaethau anabledd.
Fe fuodd Paul yn Ddarlithydd Cyswllt Diwylliant Gweledol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, a bellach mae’n Uwch Gymrawd Ymchwil mewn daearyddiaeth ddiwylliannol ym Mhrifysgol Southampton.
Hygyrchedd: BSL gan Cathryn McShane (dydd Gwener yn unig)
More at Chapter
-
- Art
Eimear Walshe: [É]IRE
-
- Art
EIMEAR WALSHE: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
Archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro, gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.
-
- Art
Steve McQueen: Grenfell
Fe’i gwnaed mewn ymateb i’r tân yn Nhŵr Grenfell yng Ngogledd Kensington, Gorllewin Llundain yn 2017 — trychineb lle bu 72 o bobl farw. Er mwyn creu cofnod parhaus, ffilmiodd McQueen y tŵr cyn iddo gael ei orchuddio.
-
- Art
Feeding Chair
Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair, sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus.