Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

EXPERIMENTICA 24: SERAFINE1369: The Ways, The Fortune, The Fall

  • 1h 45m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 45m

Mae SERAFINE1369 yn cyflwyno perfformiad newydd gyda sgôr gwreiddiol sy’n archwilio syniadau o ddadfeiliad coreograffig, cylcholdeb, a chatharsis byrhoedlog.

“Dyma waith a wnaed yn y gaeaf ar gyfer y gwanwyn, gan wrando yn y tywyllwch ar rwgnach tanddaearol y pethau sydd ar fin dod i’r golwg, na allwn eu gweld na’u cyffwrdd eto. Maen nhw’n dweud mai cyn y wawr mae hi dywyllaf.

Y man cychwyn (os oes y fath beth â dechrau) yw llinell o gerdd ysgrifennais i yn dilyn gwahoddiad gan artist arall, yr arfer dawns gyfoes o wneud fersiynau o 'Le Sacre du Printempts' neu 'Ddefod y Gwanwyn' a darn o waith greais i yn 2019 cyn y pandemig. Mae pob un o’r rhain yn cyfleu’r dyfalu a’r dychwelyd y gall cylchoedd eu hachosi.

Mae darn o’r gerdd yn cylchu drwy’r tri thrac sy’n creu The Ways, The Fortune, The Fall. Mae pob trac yn 11 munud ac 11 eiliad o hyd. Bydd y cylch yn rhedeg dair gwaith.”



Diolchiadau

Perfformiad: Fernanda Muñoz-Newsome, Steph McMann, SERAFINE1369
Cynllunydd Sain: Josh Anio Grigg
Cynllunydd Goleuo: Jackie Shemesh
Cynhyrchu: Nancy May Roberts (Metal & Water)


Artist annibynnol, dawnsiwr ac ymchwilydd sy’n canolbwyntio ar y corff yw SERAFINE1369, sy’n gweithio gyda dawns fel rhywbeth athronyddol, a dyma brosiect gwleidyddol sydd â chanlyniadau seico-ysbrydol moesegol am fod yn y byd; dawnsio fel technoleg glòs. Mae eu gwaith yn goreograffig ac yn defnyddio (dad)elfennu fel cyflwr o gylchu a dadfeilio tuag at fynegiannau moel synhwyro a’i fanylion. Mae eu methodoleg yn reddfol ac yn amlochrog, gan ystyried rhyng-gysylltiad myrdd o systemau.

Hygyrchedd: Disgrifiaid sain saesneg ar gael

NODYN CYNNWYS: Goleuadau Isel

Polisi hwyrddyfodiaid: Bydd y drysau’n agor chwarter awr cyn amser dechrau’r perfformiad. Dylech gyrraedd yn brydlon gan fod capasiti’r digwyddiad yn gyfyngedig. Bydd unrhyw seddi sy’n wag 5 munud cyn amser dechrau’r perfformiad yn cael eu rhyddhau a’u hail-werthu wrth y drws ar sail cyntaf i’r felin.

Taflen Sain: Rhaglen Hygyrch

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share

Cyrraedd Yma

Manylion am sut i gyrraedd yma, cyfarwyddiadau a gwybodaeth am barcio.

Learn More