Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Film

That They May Face The Rising Sun (15)

  • 1h 47m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 47m

Iwerddon | 2023 | 107’ | 15 | Pat Collins, Barry Ward, Anna Bederke

Mae Joe a Kate wedi dychwelyd o Lundain i fyw a gweithio mewn cymuned fach a chlòs yng nghefn gwlad Iwerddon, yn agos at lle magwyd Joe. Mae e’n awdur, a hithau’n artist a ffotograffydd sy’n dal i fod yn rhannol berchen ar oriel yn Llundain. A hwythau bellach wedi ymgartrefu mewn lleoliad anghysbell ar lan afon, mae drama blwyddyn yn eu bywydau nhw a’u cymdogion yn datblygu drwy ddefodau gwaith, chwarae a’r tymhorau. Archwiliad myfyriol a chain o gysylltiadau cymuned wledig a’r cwestiwn ynghylch sut orau mae byw. Dyma addasiad meddylgar a thawel o nofel olaf John McGahern, a osodwyd yn y 1980au ac a ffilmiwyd ar lan Loch Na Fooey yn Galway.

Share