
Dangos Grenfell gan Steve McQueen gyda rhaglen gyhoeddus gysylltiedig wedi’i churadu gan Common/Wealth
- Published:
Dangos Grenfell gan Steve McQueen yn Chapter gyda rhaglen gyhoeddus gysylltiedig wedi’i churadu gan Common/Wealth yn archwilio tai, cyfiawnder, ac ymgyrchu.
Gosodwaith ffilm yw Grenfell, a grëwyd gan Steve McQueen mewn ymateb i’r tân a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell ar 14 Mehefin 2017, sy’n agor yn Chapter ar 10 Mai gyda dangosiadau dyddiol, fel rhan o daith genedlaethol a drefnwyd gan y Tate.
Ym mis Rhagfyr 2017, creodd yr artist a’r gwneuthurwr ffilm Steve McQueen (g. 1969, Llundain) waith celf mewn ymateb i’r tân a ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell. Bu 72 o bobl farw yn y drychineb. Wrth ffilmio’r tŵr cyn iddo gael ei orchuddio, aeth McQueen ati i greu cofnod ohono i sicrhau na fyddai’n cael ei anghofio.
Ddechrau’r flwyddyn, cyhoeddodd y Llywodraeth fod Tŵr Grenfell am gael ei ddymchwel, sy’n gwneud cofnod McQueen yn fwy hanfodol byth. Bydd Grenfell ar gael i’w weld ar 14 Mehefin, wyth mlynedd yn union wedi’r drychineb. Ar y diwrnod yma, bydd Chapter yn cynnal cynulliad mewn undod â Grenfell United, goroeswyr, a theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn y tân.
Rhwng 4 a 7 Mehefin, bydd rhaglen gyhoeddus bedwar diwrnod, We Stand With You, wedi’i churadu gan Common/Wealth, yn dod â sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau at ei gilydd sy’n mynd i’r afael â’r frwydr am gyfiawnder i Grenfell a phwysigrwydd ymgyrchu cymunedol.
Ymhlith y digwyddiadau, bydd trafodaeth rhwng goroeswyr a’r rhai mewn profedigaeth yn dilyn Grenfell ac Aberfan, yn ogystal ag ymgyrchydd cymunedol o Butetown, Caerdydd. Yn cadeirio bydd Peter Apps, awdur Show Me the Bodies: How We Let the Grenfell Tower Fire Happen.
Bydd Forensic Architecture yn dangos Situated Testimonies of Grenfell, ffilm sy’n plethu straeon rhyng-gysylltiedig o noson y tân, o safbwynt y goroeswyr, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a llygad-dystion. I ddilyn y dangosiad bydd trafodaeth rhwng Edward Daffarn o Grenfell United a Samaneh Moafi o Forensic Architecture.
Yn yr oriel, bydd gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan Gaerdydd a’i chymunedau i’w gweld. Ymhlith yr artistiaid mae Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter a Jon Pountney. Gan ymateb i thema cymuned, mae’r gwaith yma’n ysbrydoli cryfder ac undod yn y frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol.
Bydd cyfres o weithdai’n archwilio anghyfiawnder tai yng nghyd-destun Cymru.