Film
GURU LIVE CYMRU: ADRODD STRAEON FFEITHIOL: NEWYDDIADURAETH, RHAGLENNI DOGFEN A PHODLEDIADAU
- 1h 0m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
- Math Film
SINEMA 2
Guru Live Cymru yw ein cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer talent greadigol sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghaerdydd.
Dewch i fyd adrodd straeon aml-lwyfan ffeithiol wrth i ni ddadansoddi’r hyn sydd ei angen i greu rhaglenni dogfen a phodlediadau deniadol gyda Catrin Nye (newyddiadurwr ymchwiliol a gwneuthurwr y rhaglen dogfen A Very British Cult) a James Robinson (cynhyrchydd Acid Dream: The Great LSD Plot). Rebecca Hardy fydd yn arwain y sesiwn.
Newyddiadurwr ymchwiliol, gwneuthurwr rhaglenni dogfen a chyflwynydd sydd wedi ennill gwobrau BAFTA yw Catrin Nye. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i Uned Ymchwiliadau’r BBC fel uwch ohebydd sy’n arbenigo mewn newyddion ffurf hir a materion cyfoes yn ogystal ag adrodd straeon digidol. Mae Catrin hefyd yn cyflwyno ar BBC Panorama ac mae ganddi ei rhaglen radio ei hunan ar BBC Radio Wales o’r enw The Idea.
Parti Cloi Guru Live Cymru ’24: 20:00 - 21:15
Ymunwch â ni ar ôl y sesiwn olaf am ddiod a danteithion i gloi'r diwrnod.
Mae lleoedd yn brin a dim ond ar gael i'r rhai sydd wedi archebu a mynychu sesiwn Guru Live Cymru. Os hoffech chi ddod i’r Parti Cloi, e-bostiwch cymru@bafta.org ar ôl archebu eich sesiwn Guru Live Cymru.
Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn ac rydych chi o dan 18, neu os hoffech ddod gyda rhywun o dan 18 oed, anfonwch e-bost at cymru@bafta.org cyn y digwyddiad.
Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, bydd angen i’r rhiant neu warcheidwad gadarnhau wrth BAFTA eu bod yn fodlon i’r unigolyn ddod i’r digwyddiad a llofnodi ffurflen ganiatâd. Ni fydd modd i ni dderbyn neb o dan 18 oed i’n digwyddiad heb ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad.