
Art
EXPERIMENTICA 24: Future Ritual: A Felling
- 1h 30m
Nodweddion
- Hyd 1h 30m
Mae A Felling yn archwilio syniadau am farwolaeth, cofio, trawsnewid, aileni, a throsglwyddo egni rhwng cyrff a rhwng y corff a’r amgylchedd. Mae’n waith trochol, sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i gamu i ofod o ddefod gyfoes, wedi’i bywiogi drwy arferion ymgorfforedig dwys a’i nodweddu gan fynegiannau o dosturi, bregusrwydd, cryfder a chyfnewid moesegol.
Mae gweithredoedd Ash McNaughton yn annog cyfnewid synergetig rhwng eu corff ffisegol, seicolegol ac ysbrydol a’r amgylcheddau maen nhw’n bodoli ynddynt. Mae’r arfer yma’n ymgais i ddehongli’r hyn rydyn ni’n ei anghofio. Barddoniaeth presenoldeb hylifol mewn byd sefydlog.
Mae gweithredoedd defodol cwiar Joseph Morgan Schofield wedi’u gosod yn erbyn cefndir o awydd, galar, a gwylltineb sy’n dod i’r amlwg drwy gysylltiadau rhwng eu corff anneuaidd synhwyrus sy’n chwysu ac yn dyheu a chyfres o asiantau - dynol ac arall, gan gynnwys y cof, daeareg, y tywydd a myth.
Mae diddordeb artistig Marcel Sparmann yn canolbwyntio ar greu sefyllfaoedd casgliadol dwys, wedi’u cywasgu a’u ffurfio mewn tirweddau emosiynol ac ysbrydol, mewn gwrthsafiad. Mae ganddo ddiddordeb mewn archwilio dealltwriaeth ddyfnach o dosturi, tegwch, a dewrder yng ngoleuni bregusrwydd sy’n amlygu.
Hygyrchedd: mae lle tawel ar gael yn y Pwynt Cyfryngau ar lawr cyntaf y prif adeilad.
NODYN CYNNWYS: Bloodletting, Body practice. Audiences are welcome to come in and out of the space at their discretion.
18+
Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio.
Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.
More at Chapter
-
- Art
Eimear Walshe: [É]IRE
-
- Art
EIMEAR WALSHE: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
Archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro, gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.
-
- Art
Steve McQueen: Grenfell
Fe’i gwnaed mewn ymateb i’r tân yn Nhŵr Grenfell yng Ngogledd Kensington, Gorllewin Llundain yn 2017 — trychineb lle bu 72 o bobl farw. Er mwyn creu cofnod parhaus, ffilmiodd McQueen y tŵr cyn iddo gael ei orchuddio.
-
- Art
Feeding Chair
Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair, sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus.