Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Performance

EXPERIMENTICA24: Doom Scroll: BDSM Gardener’s Question Time

  • 3h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 3h 30m

GYDA CHAMPWEITHIAU CERDDOROL TEMPO UCHEL sy’n fwy dwl na’r syniad o gyrraedd sero net erbyn 2030. A GWLEDD O ARTISTIAID ANHYGOEL SY’N TEIMLO’R UN MOR ISEL Â CHI! CEWCH EDIFARHAU AM EICH PECHODAU ECOLEGOL... Y SANAU £2.69 ’NA ODDI AR SIOP TIKTOK. CLUDIANT UN DIWRNOD. RHOI EICH AILGYLCHU YN Y BIN NORMAL. Y TRO ’NA BRYNOCH CHI GYFRANDDALIADAU YN BP. GAN DDADGOEDWIGO’R AMAZON YN SYSTEMATIG.

Criw parti cwiar sy’n dod â dwli i fywyd nos yw DOOMSCROLL, preswylwyr nos newydd The Yard. Efallai y byddwch chi wedi’u gweld nhw’n llenwi sgrin y teledu yn y BANGFACE WEEKENDER eiconig neu mewn theatr, clwb, neu ardal smygu yn agos i chi.

YN FWRLWM O EGNI. YN DRWM O CHWYS. YN LLE DIOGEL I FOD YN WIRION.

Hygyrchedd: BSL gan Claire Anderson

NODYN CYNNWYS: Noethni, Goleuadau Strob

18+

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share