Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Art

EXPERIMENTICA 24: Anushiye Yarnell: Array of Opposites

  • 1h 30m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Digwyddiad symud cyfranogol a throchol, gan ddefnyddio ffynonellau esblygiadol embryolegol.

(Cynefin dawns ar blân llorweddol)

Gofod cynhyrchiol, ymatebol, annidactig sy’n rhoi lle i sofraniaethau symbiotig personol ddod i’r amlwg... yn ddarfodedig ac yn fythol ar yr un pryd.

Cyfres o ymgyrchoedd hydraidd sy’n cael eu cynhyrchu drwy hunan-gyffwrdd o fewn ein gofod personol.

Sut gallwn ni fodoli yn ein cyrff drwy bresenoldeb cymhleth, synhwyraidd, symbiotig, rhyngberthynol, araf gynyddol sy’n ceisio goroesi, yn hytrach na thrwy ymatebion niweidiol fel dianc, rhewi neu ymladd?

“Cwest” o fewn y cwestiwn...

Drwy haenau o amser/bod/presenoldeb, yn dal i symud drwy ein cyrff, yn treiddio i’r synhwyrau anhysbys. Yn dal i anadlu, yn aros.

Gwahoddir cynulleidfaoedd i ddod o hyd i le yn y babell i gymryd rhan mewn ymarfer symud dan arweiniad. Mae seddi ar gael tu allan i’r babell i arsylwyr.

Gyda sain gan Ya Yonder a delweddau gan Tess Gray.

Artist a chrëwr dawns rhyngddisgyblaethol yw Anushiye Yarnell. Mae ei gwaith yn defnyddio profiad personol, mytholegau o’r gorffennol a’r dyfodol, a’r rhyng-gysylltiad rhwng bydoedd breuddwydiol a ffantasi o fewn bywyd cyffredin. Gan ddatod y cymhlethdod, y gwrth-ddweud, a’r dryswch sy’n gynhenid i fywyd, sydd ar yr un pryd yn hardd, yn anodd, yn fyrhoedlog, yn ffaeledig, yn synhwyraidd, yn gellog ac yn amserol. Yn cyfanheddu cwestiynau am fywyd – gan gynnwys marwolaeth, dynoliaeth, yr anifail a’r dwyfol, cariad, a phegynau goroesi – wedi’u cynhyrchu drwy gyd-destunau personol, rhyngbersonol, a chyfranogol.

Yn 2022 dechreuodd Yarnell y Syllabus of Darkness, sef ysgol Sul seciwlar rhwng y cenedlaethau, gan ddatgelu ‘tywyllwch’ fel deunydd, trosiad, cyfrwng a phrofiad byw.

Polisi hwyrddyfodiaid: Bydd y drysau’n agor chwarter awr cyn amser dechrau’r perfformiad. Dylech gyrraedd yn brydlon gan fod capasiti’r digwyddiad yn gyfyngedig. Bydd unrhyw seddi sy’n wag 5 munud cyn amser dechrau’r perfformiad yn cael eu rhyddhau a’u hail-werthu wrth y drws ar sail cyntaf i’r felin.

Taflen Sain: Rhaglen Hygyrch

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share