Art
EXPERIMENTICA 24: Farah Allibhai: My Bhᾶti
- 1h 30m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 30m
Gwahoddiad i ymgynnull, anrhydeddu a galaru. Mae perfformiad claddu defodol Farah yn cynnig gobaith ar gyfer y newydd drwy’r ddaear, hadau a bwyd. Bydd bhᾶti i ddilyn, sef traddodiad Mwslimaidd Shia Ismaili o rannu bwyd a chysylltu ar ôl angladd.
Artist sy’n byw yng Nghaerdydd yw Farah Allibhai. Fel ffoadur o Uganda o dreftadaeth Fwslimaidd Gujarati Shia Ismaili, mae ei gwaith yn eistedd mewn fframwaith diwylliannol rhyngwladol unigryw. Drwy lens groestoriadol, mae’n archwilio ein perthynas gyda marwolaeth, trawma llinach goll, hunaniaeth, cysylltiad â’r tir, cymuned, hunan a theulu, gan ganolbwyntio ar iachâd, sy’n elfen greiddiol i’w harfer.
Fel artist a churadur amlddisgyblaethol, mae’n defnyddio ei phrofiad byw ac yn cael ei hysbrydoli gan arferion brodorol, y metaffisegol, amrywiaeth diwylliannol ac ysbrydol, a mwy. Mae ei gwaith yn arsylwadol, yn berfformiadol, ac yn safle-benodol, ac yn cynnwys perfformiadau byw, symudiad, llonyddwch, pererindod, defod, ffotograffiaeth, fideo, gosodwaith, a gwaith ar bapur.
Mae Farah yn cyflawni preswylfa stiwdio blwyddyn o hyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar hyn o bryd.
Gwybodaeth alergedd:
Chana Masala yn cynnwys mwstard & soia
Jalebi yn cynnwys gwenith
Nan bread yn cynnwys gwenith
Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio. Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.